Partneriaid:
- Hywel M W Thomas FCA
- Matthew J Williams ACA CTA
- D Eirian Humphreys ACCA
Cymraeg | English
Partneriaid:
Cymraeg | English
Mae sefydlu busnes newydd yn medru bod yn anodd, ac yn aml mae’n golygu llawer o risg bersonol. Mae llawer o bobl yn disgwyl, pan yn sefydlu busnes, mai’r unig ofid mawr yw p’un ai y bydd yn gwneud elw ai peidio. Tra bod gwneud elw’n bwysig, wrth gwrs, mae yna nifer fawr o ystyriaethau eraill i’w hymdrin.
Mae’n bwysig eich bod yn ymchwilio yn drylwyr i botensial eich busnes, gan gwmpasu pob agwedd o’r grefft yr ydych yn ymuno â hi. Mae’r rhain yn cynnwys:
Tra nad yw’r rhestr hon yn hollgynhwysol, mae’n gwneud y pwynt fod sefydlu busnes yn galw am gyngor arbenigol ac mae L H Phillips a’r Cwmni yma i’ch helpu ym mhob ffordd y medrwn.
Gallwn ysgwyddo eich baich weinyddol trwy hysbysu Cyllid a Thollau EM eich bod yn hunangyflogedig, trefnu i chi dalu eich Yswiriant Cenedlaethol Dosbarth 2 ac asesu’r posibilrwydd o’ch cofrestru ar gyfer TAW. Byddwn yn eich diweddaru am daliadau ar Dreth Incwm ac Yswiriant Cenedlaethol Dosbarth 4, ac yn bwysicaf oll byddwn yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o leihau eich rhwymedigaethau o ran treth.
Yn debyg iawn i unig fasnachwr, mae partneriaeth yn gweithio lle mae gennych 2 neu fwy o unigolion hunangyflogedig sy’n gweithio gyda’i gilydd. Gallwn eich cynghori ar gytundebau partneriaeth, cynnal arolwg o’r busnes a nodi sut ddylid rhannu’r elw a chwilio, unwaith eto, am ffyrdd o leihau eich rhwymedigaethau o ran treth. Mae eich rhwymedigaethau treth yn seiliedig ar eich elw ar gyfer y flwyddyn ac nid ar faint o arian yr ydych yn ei dynnu allan fel tyniadau.
Corff corfforaethol ydyw sydd wedi dod yn boblogaidd yn ddiweddar oherwydd y lefelau is ymddangosiadol o drethiant. Yn hytrach na gwneud tyniadau, gallwch dalu eich hun trwy gymysgedd o gyflog a buddrannau. Gall cynllunio ar gyfer treth yn y maes hwn ostwng y rhwymedigaethau treth cyffredinol yn sylweddol.
Mae’r cwmnïau’n eiddo i gyfranddalwyr, ond cânt eu rhedeg gan y cyfarwyddwyr (yr un bobl weithiau, o bosib). Mae’n rhaid i’r cyfarwyddwyr baratoi cyfrifon ar ffurf statudol, sy’n rhaid eu cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau a Chyllid a Thollau EM. Mae gan L H Phillips a’r Cwmni y dealltwriaeth, y profiad a’r systemau i ysgafnhau’r faich hon.
Gallwn eich helpu i sefydlu statws Elusen a’ch cynghori ar gadw cofnodion mewn trefn. Gellir paratoi adroddiadau archwiliedig ac annibynnol ar draws amrywiaeth o Elusennau a Chymdeithasau Tai. Rydym yn gwneud hyn oddi fewn i gyllideb a graddfa amser a gytunir gyda chi. Hefyd, gallwn gyflawni eich gofynion ffeilio statudol gyda Thŷ’r Cwmnïau a’r Comisiwn Elusennau.
L H Phillips & Co. · 29/30 Heol y Cei · Caerfyrddin · SA31 3JT
Ffôn 01267 237534 · Ffacs 01267 234036 · E-bost: info(аt)lhphillips.com