Partners

Mae LHP, a leolir yng Nghaerfyrddin, yn gwmni o Gyfrifwyr, Archwilwyr a’r Arbenigwyr Treth sydd wedi bod yn cydweithio gyda’r gymuned fusnes yn Ne a Gorllewin Cymru ers dros 75 mlynedd.
Rydym yn disgrifio ein hunain fel practis cyfrifyddu sy’n cynnig ‘cyffyrddiad personol’ i fusnesau. Bwriadwn gynnal yr ethos hwn wrth i ni newid yr enw i LHP.
Rydym yn ymfalchïo yn ein gwybodaeth leol ardderchog ac rydym yn delio â busnesau bach nad ydynt wedi’u cofrestru ar gyfer TAW yn ogystal â chwmnïau mawr â throsiant yn y miliynau. Ein cenhadaeth yw rhoi gwerth ychwanegol i’n cleientiaid. Tra bod cyfrifwyr eraill yn cwblhau’r cyfrifon diwedd blwyddyn yn unig, rydym ni’n gweithio er mwyn helpu ein busnesau i dyfu.
Y Tîm
Rhestr Bostio
Ymunwch â’n rhestr bostio i dderbyn ein e-gylchlythyr sy’n cynnwys newyddion y diwydiant.
Ymuno â’r rhestr Bostio
Gallwch ymwneud â ni ar
Newyddion Diweddar
Diwrnod Golff LHP
Ym mis Mawrth, cynhaliodd LHP ei diwrnod golff cyntaf ar gyfer cleientiaid a...
Darllenwch Mwy
Seminar Gwybodaeth Amser Real
Er mwyn cynorthwyo ein cleientiaid gyda'r system Gwybodaeth Amser Real sydd ar fin cael...
Darllenwch Mwy
Swyddi
Cwestiynau treth
Mwy o Newyddion
Tysteb
CJ’s Book-Keeping Ltd
Gwasanaeth cadw cyfrifon ac ysgrifenyddol
Rydym wedi gweithio’n agos gyda LHP dros y bum mlynedd diwethaf. Practis proffesiynol a hawdd-mynd-ato gyda staff eithriadol o gyfeillgar. Mae’n bleser bod yn gysylltiedig â nhw.
Design Marque - Sarah Ray
Dylunydd Graffig
O’r funud y trosglwyddais fy nghyfrifon i ofal LHP teimlais eu bod yn gweithredu er fy lles i. Yn ogystal â chymryd amser i ddeall eich busnes, maent yn gwneud eu gorau i’ch helpu i ddeall y ffordd orau o reoli gwahanol elfennau o’ch busnes. Mae’r wybodaeth y maent yn ei rhoi yn glir, cryno ac addysgiadol ac yn cael ei chyflwyno mewn modd cyfeillgar.
Pan rydych chi’n brysur yn gwneud yr hyn yr ydych yn ei wneud orau, mae’n gwneud synnwyr economaidd i’w gadael hwy i wneud yr hyn y maent hwy yn ei wneud orau - sef arbed arian i chi! Cwmni cyfrifyddu tra chymeradwy ac rydym yn ymddiried yn llwyr ynddynt.
S J Construction (Gwili) Ltd
Gwneuthurwr ac adeiladwyr adeiladau ffrâm dur at ddefnydd amaethyddol.
Rydym yn gwmni adeiladu lleol sydd wedi bod gyda LHP ers sawl blwyddyn. Rydym wedi eu gweld yn gwmni effeithlon a hawdd-mynd-atynt. Mae ganddynt brofiad a gwybodaeth gwerthfawr am ein sector busnes sy’n bwysig iawn i ni. Maent yn eithriadol o ragweithiol ac yn rhoi cyngor ardderchog i ni mewn perthynas â’n cyfrifon a materion treth. Mae pob aelod o’r staff yr ydym ni wedi delio â nhw yn gyfeillgar a gwybodus iawn, ac mae’n bwysig i ni fod y rhan fwyaf ohonynt yn siarad Cymraeg
Messrs Jones, Gilfach, Llangain
Ffermwyr Llaeth a Da Tew
Cymerwn y cyfle i gyfleu ein gwerthfawrogiad o’r cwmni cyfrifyddu LHP, gyda diolch am daenu adain ofalus dros ein busnes am flynyddoedd lawer. Ni yw’r drydedd genhedlaeth o’r teulu i ddefnyddio’r cwmni, sydd yn ei hun yn datgan neges arbennig iawn.
Messrs Brown, Lower Llantydwel, Taverspite
Ffermwr llaeth
Rydym yn gwerthfawrogi’r cyngor a gawn gan LHP a’r modd effeithiol y maent yn paratoi ein cyfrifon. Mae eu gwybodaeth am ffermio yn amhrisiadwy ac maent bob amser yn ymddwyn mewn modd dymunol iawn wrth gynnal eu busnes.
Dr Abhaya Gupta
Meddyg Ymgynghorol yn Ysbyty Glangwili Caerfyrddi
Rwyf yn fodlon iawn â’r gwasanaeth cyfrifyddu yr wyf wedi ei dderbyn gennych dros nifer o flynyddoedd. Rwyf yn gallu gweld y gwahaniaeth y mae wedi’i wneud o’i gymharu â’r gwasanaeth yr arferwn ei gael gan gyfrifydd lleol arall. Yr hyn sy’n arbennig o bwysig i mi yw eich bod ar gael i’ch cleientiaid; rydych yn cynnig apwyntiadau buan ac yn ymateb yn brydlon i’m negeseuon e-bost, ac mae gwybod eich bod yn ymdrin â materion yn ddi-oed yn rhoi tawelwch meddwl i mi.
Mae’r cyfrifon yn cael eu paratoi yn brydlon ac yn effeithlon, ac rydych yn ymdrin ag unrhyw ymholiadau gan y dyn treth, sy’n gallu bod yn hunllef! Rydych yn cynnig cyngor proffesiynol ac eglur mewn perthynas â’m prif incwm yn ogystal ag incwm ychwanegol sydd gennyf drwy rentu eiddo ac o Gwmni Cyfyngedig. Yr wyf yn awr yn defnyddio eich gwasanaethau ar gyfer materion teuluol hefyd.
Diolch am fod nid yn unig yn gynorthwyydd proffesiynol ond hefyd yn gyfaill.
Nicholas MKTG
Rheolwr ac ymgynghorydd busnes profiadol.
Mae LHP wedi dangos i mi fod cyfrifyddu yn golygu mwy na dim ond paratoi cyfrifon diwedd blwyddyn. Yr un mor bwysig yw’r cymorth y maent yn ei gynnig o ran rheoli fy anghenion cyfrifyddu drwy gydol y flwyddyn a’r cyngor treth a TAW dibynadwy a gaf ar hyd y ffordd.
Mae LHP wedi helpu drwy wrando pan fydd gennyf gwestiynau yn ymwneud ag agweddau eraill o’m busnes, ac maent wedi fy nghyfeirio at wasanaethau eraill sy’n gallu fy nghynorthwyo. Maent hefyd wedi fy nghyflwyno i rwydweithiau busnes eraill o fewn y sectorau cyllid a chyfreithiol ar draws gorllewin Cymru.
Dai Nicholas
Evans and Davies Solicitors
Cyfreithwyr a hefydThe Hive Aberaeron.
Cyngor proffesiynol ac ymarferol ardderchog ar bob agwedd o faterion treth y busnes yn ogystal â rhai personol – nid oes unrhyw broblem yn rhy fawr nac yn rhy fach i LHP i’w datrys.
Tim Lewis Dental Practice
Practis deintyddol uchel ei barch wedi ei leoli yng Nghaerfyrddin.
Rydym wedi bod yn gleient gyda LHP ers oddeutu 17 mlynedd ac erbyn hyn rwy’n eu hystyried yn ffrindiau sydd hefyd yn cynrychioli fy muddiannau. Yn ystod y cyfnod hwn, rwyf wedi eu gweld yn bobl effeithlon, cyfeillgar a chwrtais. Maent wedi bod yn barod iawn i helpu a derbyniais gyngor ariannol cadarn ar sawl mater - o drethi i fuddsoddiadau.
Edrychaf ymlaen at barhau i gydweithio gyda LHP am nifer o flynyddoedd i ddod.
Blue Bay Building Products Ltd
Cwmni nwyddau adeiladu arbenigol wedi’i leoli yng Nghaerdydd sydd angen archwiliad llawn yn unol â’r Safonau Archwilio Rhyngwladol.
Fel cwmni cenedlaethol sy’n masnachu mewn marchnad ddynamig iawn, roeddem yn chwilio am archwilwyr oedd yn deall natur ein busnes ac yn gallu gwneud cyfraniad gwirioneddol i’n llwyddiant.
Mae LHP wedi rhagori ar ein disgwyliadau o ran y ddau beth hyn ac wedi profi eu hunain yn ymgynghorwyr busnes gwerthfawr yr ydym yn ymddiried yn llwyr ynddynt.
Schooner Park, New Quay
Cwmni llwyddiannus sy’n gwerthu Cartrefi Parc Moethus.
Cyngor pwyllog, cadarn a synhwyrol gan gwmni cyfrifyddu rhagorol - ein hymgynghorwyr proffesiynol mwyaf dibynadwy ac rydym yn ymddiried yn llwyr ynddynt.
Prism (Charity)
Elusen camddefnyddio alcohol a chyffuriau
Mae Prism wedi defnyddio LHP fel ei archwilwyr ers dros ddeng mlynedd.
Mae LHP wedi buddsoddi cryn amser ac ymdrech i sicrhau fod ganddynt ddealltwriaeth glir o natur busnes Prism a’r amgylchedd yr ydym yn gweithio ynddo. Maent bob adeg yn adeiladol a chadarnhaol o ran yr adborth a geir ganddynt, ac mae hyn wedi cynorthwyo Prism i wella ein prosesau a’n perfformiad dros y blynyddoedd.
Mwy o Eirdaon