Partneriaid:

  • Hywel M W Thomas FCA
  • Matthew J Williams ACA CTA

Cymraeg | English

Cyfrifyddiaeth ac Archwiliadau

Cyfrifon Pen Blwyddyn

P’un ai eich bod yn unig fasnachwr, yn bartneriaeth neu’n gwmni cyfyngedig, mae’n rhaid paratoi cyfrifon pen blwyddyn naill ai ar gyfer datgeliad ar eich ffurflenni treth incwm personol neu i’w cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau. Mae gennym gleientiaid sy’n ein darparu gydag amrywiaeth o lyfrau a chofnodion, o gwdyn yn llawn derbynebau i fantoliadau prawf cwbl gyfrifiadurol.

Unwaith fydd y cyfrifon drafft wedi cael eu paratoi, byddwn yn trefnu apwyntiad i ni gwrdd i drafod unrhyw faterion sy’n codi ar ein rhan ni neu ar eich rhan chi. Mae hyn yn ein darparu ag o leiaf un cyfarfod blynyddol wyneb yn wyneb, tra mae rhai cyfrifwyr eraill yn anfon set o gyfrifon atoch heb unrhyw gyswllt pellach.

Archwiliadau

Er bod perchenogion busnesau, yn draddodiadol, yn ystyried yr archwiliad blynyddol a pharatoi cyfrifon blynyddol yn ganolfan gost – drwg anorfod – rydym ni’n gwneud pob ymdrech i’w drawsnewid i elw uwch. Yn ogystal â’ch helpu chi i ddiwallu eich gofynion statudol, rydym yn manteisio ar y cyfle i adolygu eich systemau ariannol a rheoli, i awgrymu gwelliannau a fyddai o fudd i’r cwmni a’i gyfranddalwyr.

Cyfrifon Cwmnïau

Caiff cyfrifon cwmnïau cyfyngedig eu paratoi gan staff cymwys, sydd â dealltwriaeth drylwyr o’r Safonau Adroddiadau Ariannol (FRS) a safonau cyfrifyddu blaengar. Mae dyddiadau cau ar gyfer ffeilio’n sicr o gael eu cyrraedd.

Llifau Arian a Chynllunio Busnes

Mae llifau arian ac adroddiadau cynllunio busnes rheolaidd yn medru helpu eich busnes i wybod y diweddaraf am eich sefyllfa ariannol, a gallant helpu i roi rhybudd o broblemau yn y dyfodol a materion a allai amlygu.

Mae tafluniadau eraill, megis mantolenni ac adroddiadau elw a cholled yn ddefnyddiol hefyd, yn enwedig pan yn ceisio codi arian.

Yn ogystal, yr allwedd i unrhyw fusnes llwyddiannus yw cynllun clir a chymryd camau tra’n gweithredu’r cynllun i sicrhau fod cynnydd yn cael ei fesur a bod camau cywirol yn cael eu cymryd pan fod angen.

Nod ein gwasanaeth cynllunio busnes yw:

  • Canfod ble mae eich busnes ar hyn o bryd.
  • Cynllunio’n effeithiol ar gyfer y dyfodol.
  • Canolbwyntio ar gryfderau allweddol.
  • Gwella’r wybodaeth ar reoli.
  • Mwyhau’r defnydd effeithiol a wneir o adnoddau.
  • Canfod gofynion am nawdd.
  • Darogan goblygiadau ariannol y prosiect.
  • Gallwn helpu wrth baratoi cynlluniau ar gyfer y dyfodol ac wrth baratoi cyllidebau blynyddol a rhagolygon ariannol

Hawlio Grantiau

Rydym wedi paratoi ffurflenni hawlio grantiau ar draws ystod eang o ddiwydiannau. Cânt eu gwneud ar sail amserol i sicrhau fod y busnes yn derbyn nawdd pan fod ei angen fwyaf, heb oedi mwy na sy’n rhaid.

L H Phillips & Co. · 29/30 Heol y Cei · Caerfyrddin · SA31 3JT

Ffôn 01267 237534 · Ffacs 01267 234036 · E-bost: info(аt)lhphillips.com