Partneriaid:
- Hywel M W Thomas FCA
- Matthew J Williams ACA CTA
- D Eirian Humphreys ACCA
Cymraeg | English
Partneriaid:
Cymraeg | English
Mae’n ofynnol i unigolion hunangyflogedig, cyfarwyddwyr cwmnïau a threthdalwyr cyfradd uwch, i gwblhau ffurflen dreth hunanasesiad erbyn yr 31ain o Ionawr bob blwyddyn. O 2007/08 ymlaen, mae’n rhaid i’r ffurflenni yma gael eu cyflwyno ar ffurf electronig, fel arall, y dyddiad cau ar gyfer ffurflenni â llaw yw’r 31ain o Hydref. Mae gennym systemau mewn lle i sicrhau ein bod yn glynu at ddyddiadau pwysig a bod y ffurflenni’n cael ei cyflwyno i Gyllid a Thollau EM trwy gyfrwng y Rhyngrwyd.
Peth arall sy’n newydd yn 2007/08 yw’r cyfnod mae’n bosib i Gyllid a Thollau EM i ychwilio i’ch ffurflen dreth. Yn flaenorol, roedd gan Gyllid y Wlad 12 mis o’r 31ain o Ionawr i ymchwilio i gynnwys eich ffurflen. O 2007/08 ymlaen, bydd y cyfnod o 12 mis yn cychwyn o’r dyddiad y cyflwynir eich ffurflen dreth, a thrwy hynny mae’n eich cymell i gyflwyno eich ffurflenni’n gynharach. Mae L H Phillips a’r Cwmni yn cefnogi ei gleientiaid wrth baratoi eu ffurflenni, gan ein bod yn trafod yn rheolaidd gyda’r banciau a chymdeithasau adeiladu lleol, i gael gwybodaeth yn gyflymach.
Gellir talu unrhyw ad-daliadau treth yn syth i’ch cyfrif banc.
Byddwn yn gwneud pob ymdrech i baratoi eich ffurflenni treth Gorfforaeth ar yr un pryd a fyddwn yn paratoi eich datganiadau ariannol blynyddol. Mae hyn yn ein galluogi i ymdrin ag unrhyw faterion yn syth tra eu bod yn fyw yn y cof. Rydym yn paratoi’r ffurflenni yma yn unol â’n dealltwriaeth a’n profiad o eitemau cyfreithlon, a gallwn gynghori ymhellach ar gael cymorth lwfansiau cyfalaf.
Mae’n rhaid cyflwyno ffurflenni o fewn 12 mis i ben y flwyddyn, a dylid talu unrhyw dreth 9 mis ac 1 diwrnod wedi pen y flwyddyn.
Mae rheoli cyflogres yn medru bod yn drafferthus, yn gymhleth ac yn gostus, a gall eich rhwsytro rhag rhedeg eich busnes. Gallwn roi dewis cost effeithiol, sy’n golygu bod y drafferth a’r gost yn cael ei dynnu oddi ar eich ysgwyddau, a gallwn reoli’r gwasanaeth cyfan ar eich rhan. Rydym yn darparu slipiau cyflog wythnosol neu fisol, rydym yn cynghori ar daliadau TWE / YC, a hefyd rydym yn gofalu eich bod yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau pen blwyddyn, trwy gwblhau’r P35 a P14 a P60 y gweithiwr. Cawn ein diweddaru am newidiadau i’r cyfraddau treth, Tâl Salwch Statudol a Thâl Mamolaeth Statudol, ac mae gennym y cyfleusterau i ymdopi â nifer fach neu fawr o weithwyr.
Rydym yn darparu gwasanaeth cynhwysfawr ar gyfrifon Ymddiriedolaeth ac Ystad, ynghyd â’r taflenni treth statudol. Rydym yn derbyn gwaith oddi wrth ein cleientiaid presennol, cleientiaid newydd ac atgyfeiriadau gan gyfreithwyr lleol.
Gallwn gynorthwyo wrth baratoi’r datganiad blynyddol o gredydau treth. Gallwn eich hysbysu o’ch union ffigyrau neu ffigyrau amcanol, mewn modd amserol, ac eto os oes angen eu haddasu unwaith bydd eich ffurflenni treth wedi cael eu cwblhau.
Mae gennym adran TAW ymroddedig, sy’n medru cwblhau eich ffurflenni TAW oddi fewn i’r dyddiadau cau statudol, a gallwn eich hysbysu o’r taliad / ad-daliad ohono. Mae’r gwasanaeth hwn yn ysgwyddo’r faich o gwblhau’r ffurflen TAW eich hun, a hefyd mae’n wasanaeth sy’n rhoi tawelwch meddwl. Gallwn eich cynghori ar y datrysiad TAW gorau i’ch busnes chi, yn cynnwys y Cynllun Cyfradd Unffurf, Arian Parod neu gyfrifyddu blynyddol ayb.
Yn aml, rydym yn trafod gyda chyfreithwyr ynglŷn â rhoi’r cyngor gorau ar Dreth Etifeddiant, yn dilyn adolygiad trylwyr o’ch amgylchiadau. Mae’n bosib bydd hyn yn cynnwys trosglwyddo asedau, trefnu ewyllys a chysgod yswiriant. Hefyd, gallwn gynghori ar weithredoedd amrywio yn dilyn marwolaeth.
L H Phillips & Co. · 29/30 Heol y Cei · Caerfyrddin · SA31 3JT
Ffôn 01267 237534 · Ffacs 01267 234036 · E-bost: info(аt)lhphillips.com