Partneriaid:

  • Hywel M W Thomas FCA
  • Matthew J Williams ACA CTA

Cymraeg | English

Ein Cleientiaid

Y Proffesiwn Cyfreithiol

Mae ein cwmni’n gweithredu ar ran nifer o gwmnïau cyfreithiol, ac nid yn unig yr ydym yn cynnal archwiliadau ein cleient, ond hefyd rydym yn ymdrin â chyfrifon a materion treth y Partneriaid eu hunain.

Mae gennym Dîm Gwasanaethau Cyfreithiol, ac mae ein hamrywiaeth o wasanaethau’n ymestyn ymhell tu hwnt i ymdrin â’r Rheolau Cyfrifon Cyfreithwyr – Archwiliad Cymdeithas y Gyfraith; Cyfrifon Partneriaeth Blynyddol, Trethiant Partneriaeth, Trethiant Unigol, Cynllunio Treth Corfforaeth a Phartneriaeth.

Nid hynny’n unig, gallwn gynnig ystod eang o wasanaethau i’n cleientiaid cyfreithiol, o IHT a chyngor ar enillion cyfalaf i Gyfrifon Ystâd ac Adenillion Ymddiredolaeth i’w cleientiaid.

Elusennau

Gellir paratoi adroddiadau archwiliedig ac annibynnol ar draws amrywiaeth o Elusennau a Chymdeithasau Tai. Rydym yn gwneud hyn oddi fewn i gyllideb a graddfa amser a gytunir gyda chi. Hefyd, gallwn gyflawni eich gofynion ffeilio statudol gyda Thŷ’r Cwmnïau a’r Comisiwn Elusennau.

Y Diwydiant Amaeth a busnesau cysylltiedig

Mae cyfran fawr o’n cleientiad yn ffermwyr sy’n dibynnu ar ein cyngor diduedd a’n prisiau cystadleuol, yn yr amgylchedd amaethyddol sy’n newid o hyd. Mae gennym enw da o fewn y gymuned amaethu am roi gwerth am arian a lefel uchel o fodlonrwydd i’r cleientiaid.

Cleientiaid Proffesiynol Eraill

O Ddeintyddion a Meddygon i Filfeddygon a Phostfeistri, gallwn ddefnyddio ein profiad ar draws y proffesiynau yma i ddarparu gwasanaeth, nid yn unig y bydd ein cleientiaid yn ei werthfawrogi ond y byddant yn ei argymell i eraill. Oherwydd graddfa ein profiad, gallwn gynnig ffi cystadleuol iawn sydd, ynghyd â’n gwasanaeth hygyrch i gleientiaid, yn gwneud L H Phillips a’r Cwmni yn wasanaeth gwerth am arian ardderchog.

Tir ac Eiddo

Mae gennym ddealltwriaeth benodol o amrywiaeth o gleientiaid yn y sector hwn, o adeiladwyr a chrefftwyr i ddatblygwyr tai a phenseiri. Hefyd, gallwn ddarparu gwasanaeth enillion cyfalaf cynhwysfawr, sy’n edrych ar ffyrdd o leihau rhwymedigaethau treth posib.

Twristiaeth

Rydym yn gweithredu ar ran llawer o westai, parciau carafannau a busnesau cysylltiedig eraill, sy’n rhoi mewnwelediad unigryw i ni i’r diwydiant hwn ac mae’n ein galluogi i ddarparu gwasanaeth i’r cleient ar lefel uwch.

Y Cyfryngau

Rydym ni hefyd yn gweithredu ar ran nifer o actorion oddi fewn i’r Diwydiant Ffilm a Theledu.

L H Phillips & Co. · 29/30 Heol y Cei · Caerfyrddin · SA31 3JT

Ffôn 01267 237534 · Ffacs 01267 234036 · E-bost: info(аt)lhphillips.com