Partneriaid:
- Hywel M W Thomas FCA
- Matthew J Williams ACA CTA
- D Eirian Humphreys ACCA
Cymraeg | English
Partneriaid:
Cymraeg | English
Gallwn eich helpu gyda’ch gofynion cadw cyfrifon cyffredinol, mewn lleoliad o’ch dewis chi. Efallai bod angen cymorth arnoch i ysgrifennu eich cofnodion neu eich bod chi eisiau i ni gwblhau’r wybodaerh ar eich systemau cadw cyfrifon, er mwyn creu eich gwybodaeth reoli eich hunan. Os nad ydych yn cyflogi cyfrifydd yna gallwn ddarparu’r rôl yma, a allai ostwng eich ffi cyfrifon blynyddol oherwydd bydd peth o’r gwaith wedi cael ei baratoi gan staff cymwys.
Mae gennym arbenigedd mewn llawer o raglenni meddalwedd, o Word ac Excel sylfaenol i SAGE a QuickBooks mwy datblygedig. Gallwn eich cynghori ar brynu’r cynnyrch cywir i’ch busnes, tra’n rhoi’r hyfforddiant angenrheidiol i chi barhau i reoli eich busnes yn llwyddiannus trwy gyfrwng electronig.
Yn ystod cyfnodau o gynnydd neu ddirywiad mae perchennog-reolwyr eisiau’r wybodaeth ddiweddaraf ar flaen eu bysedd i sicrhau fod y penderfyniadau cywir yn cael eu gwneud. Rydym yn cynnwys gwasanaeth cyfrifon rheoli, lle’r ydym yn paratoi cyfrifon misol, chwarterol neu chwe misol, a hefyd gallwn roi cymorth gyda cham nesaf y busnes.
Y peth olaf sydd ei angen arnoch chi fel perchennog busnes prysur yw gorfod gwastraffu amser ac adnoddau gwerthfawr yn sicrhau eich bod yn cydymffurfio â’r Ddeddf Cwmnïau. Yn ogystal, gyda deddfwriaeth cwmnïau’n newid mor aml ag y mae, mae angen i chi fod yn siŵr eich bod yn gwbl ymwybodol o sut mae’r newidiadau’n effeithio arnoch chi a’ch cyd gyfarwyddwyr.
Gallwn roi tawelwch meddwl i chi yn y maes hwn trwy gyflawni dyletswyddau ysgrifenyddol eich cwmni ar eich rhan chi. Mae ein gwasanaethau’n cynnwys:
L H Phillips & Co. · 29/30 Heol y Cei · Caerfyrddin · SA31 3JT
Ffôn 01267 237534 · Ffacs 01267 234036 · E-bost: info(аt)lhphillips.com