Partneriaid:
- Hywel M W Thomas FCA
- Matthew J Williams ACA CTA
- D Eirian Humphreys ACCA
Cymraeg | English
Partneriaid:
Cymraeg | English
Gwybodaeth yn dod yn fuan.
Ganwyd Matthew yn Aberdâr ond cafodd ei fagu yn Saundersfoot yn yr 80’au a’r 90’au. Wedi iddo gwblhau ei arholiadau Lefel A yn Ysgol Greenhill, Dinbych y Pysgod, cychwynnodd ar daith i Brifysgol Caerdydd i astudio Cyfrifyddiaeth.
Tra bu yno fe fu ar secondiad gyda Merck Inc, cwmni Fferyllol yn Hertford, lle cafodd brofiad mewn cyfrifeg Ariannol a Rheolaethol. Wedi graddio, cynigwyd swydd iddo yn yr adran cyfrifon a threth gyda Grant Thornton LLP.
Yma, cwblhaodd ei arholiadau ICAEW gan basio’r tro cyntaf, a galluogodd hyn iddo fynd ymlaen fel uwch swyddog treth i astudio ar gyfer arholiadau’r Sefydliad Siartredig Treth. Wedi iddo lwyddo yn yr arholiadau yma daeth Matthew yn rheolwr swyddfa gyda chwmni Cenedlaethol arall - Haines Watts, a roedd ei rôl yn cwmpasu pob agwedd o ymarfer cyffredinol.
Ym mis Awst 2006, symudodd Matthew a’i deulu tua’r Gorllewin ac ymunodd â LH Phillips a’r Cwmni, a daeth yn bartner ym mis Chwefror 2007.
Mae Matthew yn byw yn Sanclêr, mae’n briod â Sarah ac mae ganddynt dri o blant, Jacob, Maisie a Ryan. Mae’n olffiwr rhwystredig (dim digon o amser i chwarae!) ac mae’n cefnogi’r timau rygbi lleol a Chenedlaethol. Mae’n ddarllenwr llyfrau ffuglen brwd, yn enwedig llyfrau gan Matthew Reilly, Dan Brown a James Rollins, ac yn ddiweddar mae wedi dechrau chwarae sboncen i gadw’n heini.
Treuliodd Eirian ei blentyndod ar fferm y teulu yn Rhydargaeau. Aeth i ysgol gynradd Peniel ac yna i Ysgol Ramadeg y Frenhines Elizabeth i Fechgyn, yng Nghaerfyrddin. Gadawodd yr ysgol yn un ar bymtheg oed i weithio ar y fferm deuluol, gan fynd i goleg Pibwrlwyd un dydd yr wythnos i astudio amaeth.
Bu’n aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Tywi am ddeng mlynedd, lle cafodd gyfle i ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys beirniadu stoc, cystadlu yn Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc, siarad cyhoeddus a chodi arian i elusennau lleol.
Ar ôl gweithio ar fferm y teulu am nifer o flynyddoedd, penderfynodd Eirian yn 2000 ei bod hi’n bryd newid gyrfa, a chafodd swydd gyda chwmni cyfrifyddu lleol, lle y dechreuodd astudio ar gwrs AAT. Wedi ennill cymhwster AAT aeth Eirian ymlaen i astudio gyda Chymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA), ac yn 2003 penderfynnodd ehangu ei brofiad drwy symud at gwmni cyfrifyddu yn ninas Abertawe. Aeth Eirian i Brifysgol Cymru, Casnewydd un diwrnod yr wythnos a llwyddodd i gwblhau ei arholiadau ACCA ym mis Mehefin 2005, gan basio pob un y tro cyntaf.
Ar ôl ennill cymhwyster yr ACCA, dychwelodd Eirian i Sir Gâr gan dderbyn swydd fel rheolwr cyfrifon gyda phractis yn Rhydaman lle‘r oedd ei rôl yn cynnwys delio â phob agwedd o waith cyfrifyddu cyffredinol.
Yn ystod ei gyfnod gyda’r cwmnïau hyn enillodd Eirian brofiad gwerthfawr ym maes cyfrifon, treth, archwilio a datblygu busnesau, a hynny mewn amryw o sectorau. Ym mis Mai 2008 cymerodd drosodd bractis cyfrifyddu bychan yng Nghaerfyrddin, gan ei ddatblygu a’i ehangu yn ystod y pymtheg mis nesaf, cyn ymuno â L H Phillips & Co. fel partner ym mis Awst 2009.
Mae Eirian yn byw yng Nghaerfyrddin gyda’i gymar Bet a’i ddau lysfab Tom a Llew. Mae ei ddiddordebau yn cynnwys rygbi, DIY a garddio.
L H Phillips & Co. · 29/30 Heol y Cei · Caerfyrddin · SA31 3JT
Ffôn 01267 237534 · Ffacs 01267 234036 · E-bost: info(аt)lhphillips.com