Rydym yn paratoi adroddiadau archwilio ac adroddiadau annibynnol ar gyfer ystod o Elusennau a Chymdeithasau Tai. Byddwn yn gwneud hyn o fewn cyllideb ac amserlen a gytunir gyda chi. Gallwn hefyd gyflawni eich gofynion statudol gyda Thŷ’r Cwmnïau a’r Comisiwn Elusennau.
Rydym hefyd yn cynnig cyngor ynghylch systemau rheoli mewnol, sefydlu mudiadau elusennol a Chlybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol, trefniadau llywodraethu ac amrywiaeth o faterion eraill.
Mae cael arbenigwyr sector Elusennol yn hollbwysig oherwydd bod deddfwriaeth yn newid yn barhaol. P’un ai’n Ddatganiad o Ymarferion Cymeradwy neu’n ddatgeliad FRS102 newydd, gallwch ddibynnu ar LHP i gymryd y drafferth allan o baratoi cyfrifon eich elusen.
Gallwn hyd yn oed helpu gyda’ch trefniadau cadw llyfrau. Cysylltwch â Matthew Williams am ragor o fanylion.