Mae canran uchel o’n cleientiaid yn ffermwyr ac mewn amgylchedd amaethyddol sy’n newid yn gyson maent yn dibynnu ar ein cyngor diduedd a’n prisiau cystadleuol. Mae gennym enw da o fewn y gymuned ffermio am roi gwasanaeth o’r radd flaenaf sy’n cynnig gwerth da am yr arian, ac mae hyn wedi arwain at lefel uchel o fodlonrwydd ymhlith ein cleientiaid.
Gyda dros 80 mlynedd o brofiad, rydym yn un o’r prif gyfrifwyr amaethyddol yng Nghymru. Rydym yn gweithio ochr yn ochr ag ymgynghorwyr amaethyddol i ddarparu gwasanaethau hollgwmpasog er mwyn cynyddu eich elw a gwella lles anifeiliaid.
Mae cael partner yn y busnes oedd ei hun yn arfer ffermio yn ddefnyddiol iawn o ran deall anghenion cleientiaid yn y diwydiant unigryw ac arbenigol iawn hwn.
Mae ein cyfarwyddwr amaeth, Eirian Humphreys, yn un o’r arbenigwyr amaethyddol uchaf eu parch yng Nghymru. Mae ei wybodaeth eang ynghyd â phrofiad helaeth ein staff amaethyddol yn golygu ein bod yn darparu gwasanaeth o’r radd flaenaf ar gyfer ein cleientiaid.
Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth cadw llyfrau cynhwysfawr ar gyfer nifer o’n cleientiaid amaethyddol i sicrhau bod ganddynt y wybodaeth ariannol ddiweddaraf wrth wneud penderfyniadau pwysig.