Mae nifer o sefydliadau cyfryngau yn debygol o gael eu heffeithio naill ai yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol gan y toriadau diweddar yn y sector cyhoeddus a’r dirywiad yn economi Prydain.
Rydym yn gweithio gyda chleientiaid mewn busnesau cyfryngau newydd, argraffu digidol, teledu, cerddoriaeth, datblygu meddalwedd a busnesau ar-lein er mwyn eu helpu i ddeall a goresgyn y prif sialensiau sy’n eu hwynebu yn y sector cyffrous a newidiol hwn.
Rydym yn cynnig cymorth a chefnogaeth eang i amryw o fusnesau cyfryngau, o rai newydd i gwmnïau sefydledig, gan gynnwys:
- Sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r gofynion;
- Galluogi ein cleientiaid i fwrw ymlaen â rhedeg eu busnes;
- Darparu mewnbwn rhagweithiol sy’n seiliedig ar ein harbenigedd a’n profiad yn y maes;
- Sicrhau cyllid priodol drwy nodi partneriaid ariannol addas;
- Goresgyn cyfyngiadau cyllido fel bod modd i fusnesau sy’n tyfu’n gyflym i ddatblygu a chyrraedd eu llawn botensial.